Blog

  • Dewch i’r brotest dros Ysgol De Caerdydd šŸŖ Dyddiad newydd: 16 Gorffennaf 2026

    Dewch i’r brotest dros Ysgol De Caerdydd. “Adeiladwch Ysgol De Caerdydd!” Neuadd y Sir, Glanfa’r Iwerydd Dydd Iau 16 Gorffennaf 2026 4-5yp Nodwch mai dyma’r dyddiad newydd ar gyfer y brotest! (Roedd rhaid i ni ohirio’r dyddiad gwreiddiol ym mis Mehefin oherwydd y gwres eithafol.) Gwisgwch (dewisol): het galed a gwisg lachar. Os gallwch, dewch…

  • Protest wedi’i chanslo – Ysgol De Caerdydd šŸ‘·šŸ‘·ā€ā™€ļøāŒ

    Yng Nghaerdydd, mae angen ysgolion uwchradd Cymraeg ar y gorllewin, gogledd, dwyrain a’r de. Ond does dim un yn y de. Mae Tre-biwt, Grangetown ac ardaloedd cyfagos yn haeddu ysgol cyfrwng Cymraeg o’r radd flaenaf yn y gymuned – gyda chroeso i blant o bob oedran a chefndir. Dewch i’r brotest dros Ysgol De Caerdydd:…

  • Addysg Gymraeg yng Nghaerdydd – e-bostiwch eich ymgeiswyr Senedd nawr

    Bydd etholiad i’r Senedd ar 7 Mai 2026. Os ydych chi’n pleidleisio yng Nghaerdydd, mae’r wefan newydd hon dinas.cymru yn adnodd i chi. Bydd aelodau’r Senedd sy’n ein cynrychioli ni yn chwarae rhan bwysig yn natblygiad ysgolion Cymraeg yng Nghaerdydd. Mae hynny yn cynnwys yr angen i adeiladu Ysgol De Caerdydd yn Grangetown/Tre-biwt yn ogystal…

  • Diolch o galon am gymryd rhan yn yr ymgysylltu

    Mae ymarferion ymgysylltu Cyngor Caerdydd wedi dod i ben. I’r rhai sydd wedi cymryd rhan mewn ymgyrch Ysgol De Caerdydd, diolch o galon am eich holl waith caled. Bydd mwy o gyfleoedd i gymryd rhan yn yr ymgyrch yn 2026. Tanysgrifiwch i gylchlythyron e-byst er mwyn bod ymhlith y cyntaf i glywed am newyddion yr…

  • Addysg Gymraeg – nodyn o gyngor ar “arolwg ymgysylltu” Caerdydd

    Diolch i chi a phawb sydd wedi e-bostio Cyngor Caerdydd i gefnogi Ysgol De Caerdydd – ysgol cyfrwng Cymraeg newydd i dde Caerdydd wedi’i lleoli yn Grangetown/Tre-biwt! Os nad ydych chi wedi e-bostio’r cyngor eto… Cofiwch fod y cyngor yn eich gwahodd i leisio barn am addysg Gymraeg nawr, a’r diwrnod olaf i wneud hyn…

  • E-bostiwch Gyngor Caerdydd am Ysgol De Caerdydd a rhannwch y cyfle gyda ffrindiau

    E-bostiwch Gyngor Caerdydd heddiw Mae modd i chi e-bostio Cyngor Caerdydd nawr i fynegi cefnogaeth dros ysgol Gymraeg bob oed (3-19) i dde Caerdydd – ysgol uwchradd a chynradd mewn adeilad newydd yn Grangetown/Tre-biwt. Bydd ymgysylltiad Cyngor Caerdydd ar addysg uwchradd Gymraeg yn dod i ben ar ddydd Iau 26 Mawrth 2026 felly dyma eich…

  • Ymgysylltu Cyngor Caerdydd: ymatebion llawn ymgyrch Ysgol De Caerdydd

    Mae ymatebion yr ymgyrch i’r ddau ymarfer ymgysylltu gan Gyngor Caerdydd ar addysg Gymraeg ar gael yma.

  • Trefnwyr cymunedol, cerddorion, artistiaid, beirdd, actorion yn cefnogi ymgyrch Ysgol De Caerdydd

    Mae dros 80 o bobl adnabyddus wedi arwyddo llythyr cyhoeddus yn galw ar Arweinydd a Chabinet Cyngor Caerdydd i sefydlu ysgol uwchradd Gymraeg ar gyfer cymunedau Tre-Biwt, Grangetown ac ardaloedd cyfagos. Ymysg y bobl sydd wedi arwyddo mae arweinwyr cymunedol ardal Tre-biwt a Grangetown megis Emily Pemberton, Tariq Awan, Liz Musa, ac Ifty Khan. Ymysg…